Gyflwyno Sylwadau – Commenting on Planning

Yn ystod y cyfnod ymgynghori 21 diwrnod gall unrhyw un gyflwyno sylwadau ar y datblygiad, neu sylw cyffredinol. Bydd unrhyw sylwadau cynllunio dilys yn cael eu hystyried wrth benderfynu ar y cais.  Dim ond yn ystod y cyfnod hwn y gellir cyflwyno sylwadau ar gais cynllunio.

Cyflwyno sylwadau
Mae’n bosib cyflwyno sylwadau:

  • Ar-lein: Dilyn a Darganfod ceisiadau cynllunio
    Bydd angen i chi chwilio am y cais yr ydych am roi sylw arno yn y system Dilyn a Darganfod, ac yna dilyn y cyswllt Rhowch sylw ar y cais hwn er mwyn cyflwyno’r sylw.
  • Llythyr: Anfonwch eich sylwadau drwy lythyr i:
    Gwasanaeth Cynllunio, Swyddfa’r Cyngor, Ffordd y Cob, Pwllheli, Gwynedd. LL53 5AA

Mae’n bosib gweld manylion am geisiadau cynllunio drwy edrych ar y system Dilyn a Darganfod ceisiadau cynllunio ar-lein, neu drwy alw yn Siop Gwynedd, Ffordd y Cob, Pwllheli yn ystod oriau swyddfa (Llun – Gwener, 09:00 – 17:00).

 

Pa fath o sylwadau fydd yn cael eu hystyried?
Dyma’r mathau mwyaf cyffredin o sylwadau a fydd yn cael eu hystyried fel rhan o’r broses ymgynghori (nid yw’r rhestr hon yn gyflawn):

  • a yw’r datblygiad yn cydymffurfio gyda’r polisïau cynllunio a’r Cynllun Datblygu Unedol?
  • sylwadau am y dyluniad
  • effaith ar dai cyfagos megis colli golau neu breifatrwydd sylweddol
  • effaith ar ddiogelwch ar y briffordd

 

Ni fydd y Cyngor yn cymryd i ystyriaeth sylwadau sy’n dod i law am:

  • golli golygfa
  • anghydfod ynglŷn â pherchnogaeth tir
  • cymeriad yr ymgeisydd
  • materion moesol
  • colli gwerth eiddo

 

Beth fydd yn digwydd os bydd gwrthwynebiadau i’m cais yn cael eu cyflwyno i’r Cyngor?
Hyd yn oed os oes gwrthwynebiadau yn cael eu cyflwyno, nid yw o reidrwydd yn golygu y bydd y cais yn cael ei wrthod. Os bydd mwy na 3 gwrthwynebiad dilys yn dod i law, bydd y cais yn debygol o gael ei gyfeirio i’r Pwyllgor Cynllunio er mwyn cael ei ystyried.

 


Rhagor o wybodaeth
Am ragor o wybodaeth ewch i’r daflen Sut i wneud sylwadau ar geisiadau cynllunio ar safle y Cyngor.

Gallwch hefyd gysylltu-

  • Ar-lein: Ymholiad cyffredinol am gynllunio
    Y tro cyntaf y byddwch yn cysylltu ar-lein bydd angen i chi greu cyfrif. Bydd eich cyfrif yn eich galluogi i anfon ymholiad, cadw golwg ar yr hyn sy’n digwydd i’ch ymholiad a galluogi’r Cyngor anfon ymateb i chi.
  • Ffôn: 01766 771000

Commenting on Planning

During the 21-day consultation period anyone may submit comments on any development – either objecting, or a general comment. Any valid comments will be taken into consideration when making a decision on the application. Comments on a planning application can only be submitted during this period.

 

Submitting comments
It is possible to submit comments:

  • Online: Track and Trace planning applications
    You will need to search for the application you wish to comment on in the Track and Trace system and then follow the Submit a comment on this application link in order to submit a comment.
  • In writing: Send your comments by post to:
    Planning Service, Council Offices, Ffordd y Cob, Pwllheli, Gwynedd. LL53 5AA

You can view details of planning applications by looking at the Track and Trace planning applications system online, or by calling in at Siop Gwynedd, Ffordd y Cob, Pwllheli during office hours (Monday – Friday, 09:00 – 17:00).

 

What type of comments will be considered?
These are the most common types of comments that will be considered as part of the consultation period (the list is not definitive):

The Council will NOT take into consideration comments which are submitted about:

  • loss of view
  • land ownership disputes
  • personal character of the applicant
  • moral issues
  • property devaluation

What will happen if objections to an application are received?
Even if objections are received, this does not necessarily mean that the application will be refused. If 3 or more valid objections are received, the application is likely to be referred to the Planning Committee for consideration.

 

More information
For more information, go to the How to submit comments on planning applications on the Councils website.

You can also contact them:

  • Online: General enquiry about planning
    The first time you contact us online we will ask you to create an account. Your account will enable you to send an enquiry, track what’s happening to your enquiry and enable the Council to send you a response.
  • Phone: 01766 771000